Amdanom ni

Amdanom ni

Ers ei sefydlu 1988, mae gan Academia Europea dros 4,000 o wyddonwyr ac academyddion blaenllaw’n aelodau, erbyn hyn gan gynnwys dros 70 o enillwyr Gwobr Nobel  Mae Academia Europaea yn bodoli er budd y cyhoedd. Mae’n hyrwyddo rhagoriaeth ymchwil ar draws holl feysydd ysgoloriaeth ac yn tynnu sylw at werth ysgolheictod a thystiolaeth wyddonol.  Mae’n gweithredu’n rhan o rwydwaith o ganolfannau ar draws Ewrop.  Yr Athro Sierd Cloetingh (Athro Tectoneg, Prifysgol Utrecht) yw Llywydd Academia Europaea.

Agorodd Canolfan Wybodaeth Caerdydd ym mhrifddinas Cymru (DU) yn 2016.  Prifysgol Caerdydd, un o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw’r DU, sy’n ein cynnal.  Rydym yn canolbwyntio’n benodol ar feithrin cysylltiadau yng ngogledd-orllewin Ewrop, gan gynnwys y gwledydd Celtaidd a gwledydd Saesneg eu hiaith yn ehangach. Ein nod yw gwneud hyn mewn ffordd sy’n ategu rôl a gweithgareddau canolfannau rhanbarthol eraill Academia yn Barcelona, Bergen a Wroclaw.